Tro dwytha nesh i sgwennu, o'n i dal wrthi'n chwilio am job. Wel, nesh i ffeindio un, yn gweithio fel 'internal mail distributor' i gwmni mawr yn ganol y ddinas (ia, dim ond enw posh am bostman di huna). Oedd o'n ideal i fi ddo, cal bod ar y we drw dydd, pum munud o'r fflat, a pres reit dda fyd.
Eniwe, digon o sôn am huna, ymlaen at y petha hwyl. Oedd o'n braf gellu gwerthfawrogi penwythnosa eto, a mi oedda ni'n gneud y mwya o bob un! O noson St Patrick's...






Ffyni, oedda nw'n rieni reit cwl, a ma nw di deud gawn ni fynd yna i aros ata nw yn Essex ar ôl dod adra! Eniwe, ar ôl chydig o wsnosa reit debyg, natha ni benderfynu mynd i ffwr am un wicend ar ôl i gwaith pawb orffan, so atha ni i Torquay (yn Awstralia, dim yr holl ffor i Loegr!) am y penwythnos i weld cystadleuaeth syrffio mwya'r byd. Biti, oedd y syrffio di cal ei ganslo am bod y tywydd rhy dda (felly dim digon o dona), ond nath huna ddim rhoi dampnar ar yr hwyl!
Ar ôl y penwsnos yna, natha ni symud o ganol y ddinas, er mwyn cal treulio wsnos ola ni yn Melbourne yn St Kilda, sef y rhan o Melbourne sy wrth y traeth. Oedd o reit od bod nôl mewn hostel ar ôl mis mewn fflat, ond oedd o reit braf hefyd - teimlo fel bod nôl ar wylia eto! Gatha ni wsnos ola dda iawn o neud fawr o ddim!














A dyna ni! Dyna grynodeb o'r mis a hannar dwytha. Sori os oedd o'n hir braidd, ond o'n i'm isho gadal dim byd allan! Ar y noson ola un, gafo ni noson allan ola un efo James, oedd reit drist! Dwnim pryd nawn ni weld o eto, achos ella bod o am aros yn Melbourne am byth! Dyma lun o'r tri o'na ni'n drist:

O Sydney oedda ni'n fflio, felly gatha ni fys dros nos fyny yna, a cyfarfod Sarah eto am noson allan a cinio dydd Sul!
Mai'n bwrw yn Auckland heddiw, felly dwnim be da ni am neud! Wedi bwcio car am y 6 wsnos, felly fydd gena ni ryddid i neud be da ni isho eto. Edrych mlaen i ddechra symud eto!
6 comments:
Blog da iawn Gruff, braf cal o'n ôl! Smyg dwi am fod y comment cynta!
Ieeeeeeeeeeees ma'r blog yn ôl!! Licio'r lliwia newydd Gruff. Edrych mlaen i ddilyn yr antur efo chi bob cam o'r ffordd (afiach o keen o frawddeg!). Bet mai mam a dad neu un o'r chwiorydd Elis fydd y nesa i adal comment (!)
Ha ha - dwi'm isho siomi Mari felly dwi am roi y comment nesa! Cytuno, dwi'n licio bod y blog yn ôl - teimlo bo fi'm di 'siarad' efo chdi ers hir Gruff! Dalier ati (ha ha, cîn!)
Wedi brathu 'nhafod (a mysedd) fel mai ddim fi odd y cynta - ond swn i'm di gellu curo Gwil chwaith! Bolg gret - llunie difyr. Siwr bydde lot gwell gen ti fod yn winalignio.
os mai "bolg" ydi hwn, ai "bolgi" ydi gruff?
o'n i'n meddwl bod fi wedi gadael sylw ond ma raid bod fi heb.
Eniwe, da cael y blog yn ôl.
Post a Comment