08/05/2007

Wsnos reit ddiflas!

Helo! Dwi'n gwbod be da chi gyd yn feddwl - bod fi di cal wsnos o fod yn ciin yn blogio bob yn ail ddiwrnod, a bod fi rwan yn slacio, ond y gwir amdani ydi bod fi heb gal dim byd i sgwennu am tan rwan. Ar ol wsnos rili prysur yn gneud lot o betha gwahanol, da ni di cal wsnos reit ddistaw wsnos dwytha. Yn Wellington o'n i tro dwytha i fi sgwennu, ond doedd na'm lot i neud yna, a doedd y tywydd ddim yn gret, fel ma'r llun yma'n ddangos!

Ond mi oedd na dafarn Gymraeg yna, felly oedd Dan a fi reit hapus. Dyma lun o Dan yn chwara pool, a wedyn llun o Mike, sef perchennog y dafarn Gymraeg.

Oedd o'n deud mai mond pobol Gymraeg oedd yn cal gweithio yn y dafarn, a pan oedda ni yna, hogan o Lanrwst a hogyn o Abergele oedd yn gweithio. Gatha ni noson dda, ond braidd yn random!

Eniwe, dydd Iau, oedda ni fod i ddal y fferi lawr i ynys y De. Ond, nath RYWUN anghofio setio'r larwm, felly natha ni fethu fferi 7am ni (na, dwi ddim dal yn flin am y peth DAN!). A doedd na ddim refund i gal, felly oedd raid i ni brynu tocyn newydd sbon am $100 yr un! Grr. Ac i neud petha'n waeth, pan atha ni at y car, doedd o ddim yn dechra - oedd na RYWUN wedi gadal y goleuada mlaen, a gadal i'r batri fynd yn fflat! (Oce, bai fi oedd huna....) So oedd raid i ni ffonio'r AA a talu $85 arall! DIWRNOD GWAETHA'R TRAFYLS!!

OND, natha ni lwyddo i ddal y fferi mewn pryd, lwcus. Natha ni ddreifio lawr i Kaikoura am noson, lle reit neis. Natha ni gyradd yn y nos, felly natha ni'm gweld lle oedda ni'n iawn tan y bora - syrpreis neis oedd deffro i'r olygfa yma:

O fana wedyn, lawr i Christchurch. Dinas rili neis, eitha tebyg i ddinasoedd adra, ond eto - DIM BYD I NEUD! Atha ni i'r sinema i weld Spider-man 3. Mae o'n oce. Dim byd sbeshal.

ENIWE, erbyn dydd Sul, oedda ni'n eitha depressed efo cyn lleied o betha oedda ni di neud drw'r wsnos! So oedd hi'n amsar symud mlaen eto, i Queenstown. Ar y ffor, natha ni sdopio wrth ryw lyn reit enwog. Oedd na eglwys fach ar lan y llyn, a nesh i drio tynnu llun o tu fewn yr eglwys, ond ma hyn yn dangos be sy'n digwydd os da chi'n trio rwbath gwahanol!

Natha ni gyradd Queenstown yn y nos wedyn, oedd yn edrych yn rili cwl. Ac oedd o'n edrych hyd yn oed gwell yn y bora! Da ni'n aros reit ar lan y llyn yma, so gesh i gwpwl o lunia DA (os gai frolio):

Ddoe, atha ni fyny i dop mynydd mewn Gondola. AFIACH o Gondola, rili serth, a oedd Dan ddim yn help chwaith:

O'n i reit falch i gyradd y top i ddeud y gwir - dwi erioed di bod yn ffan o cable cars! Eniwe, oedd yr olygfa o'r dre o top y mynydd reit impressive:

Ac oedd na rwbath HWYL i neud ar y top (fel ma Dan di egluro yn y fideo) - lugeing. Fatha toboganio, ond gwell am bod o fwy PERYG heb drac caeth. Dyma lun o'na fo:

A dyma Dan efo'r luges (dal ddim yn siwr sud ma pronouncio'r peth!):

Lot o hwyl, oedd na gystadleuaeth dynn rhwng Dan a fi - gafo ni 5 ras, a nath Dan ennill nw i gyd! Oedd yr ola'n ras agos, fi'n dal fyny efo Dan o hyd, ond fo'n cytio fi off mewn ffor BERYG - esh i bron fewn i'r coed un tro!! Oedda ni'n dal chairlift nol fyny bob tro - o'n i ofn isda efo Dan ar ol y Gondola! Dyma lun o Dan:

Nath y cystadlu ddim gorffan fana chwaith - wedyn, gafo ni 18 twll ar gwrs Crazy Golf. Yr un mwya nyts, random ac extreme dwi di chwara. Weithia oedd o ddim even yn deg, ond rhei felna dwi'n licio! Oedd hi'n agos IAWN drw'r gystadleuaeth, ond yn diwadd, nesh i gyfri'r sgor, a'r enillydd oedd....FI!!

...Tan i Dan ailgyfri'r sgor a sylwi mai cyfartal oedda ni. O wel, gesh i deimlo fel enillydd am ddau funud. Neithiwr, atha ni am bryd o fwyd i fflat Cerys, hogan sy'n byw allan yma ond yn gweithio i Cymen! Bwyd lyfli - cinio dydd Sul cyw iar! Swn i'm di gellu dewis pryd gwell i gal! Atha ni allan neithiwr efo Cerys, Blair (ei chariad), a cwpwl o'r enw Melanie a Clive o Gymru. Lot fawr o hwyl! Dyma Dan a fi efo Cerys:

Iawn, sa well i fi fynd rwan - ma'r blog ma di cymyd hirach nag o'n i di ddisgwl! Fory da ni'n mynd lawr i Milford Sounds - dwnim bedio, ond apparently mae o'n "amazing". A dydd Gwenar - ma Dan yn gneud bungy! Dim jysd un chwaith, DAU fynji!! Nytar! Ma skydive yn ddigon extreme i fi diolch...!

Nai sgwennu'n fuan!

5 comments:

Anonymous said...

Ma'r tobogans yn edrych dipyn gwell na'r rhei yn Llandudno!

Hwyl bo na rywun sy'n gweithio i Cymen efo chdi. Ti'm yn cael licio hi fwy na fi ddo iawn? Ha ha!

Anonymous said...

Da iawn ti am gal llun o Cerys! Daliwch i joio xx

Anonymous said...

Manon ti ddim yn gweithio i Cymen dim mwy - deal with it!

Edrych yn lot o hwyl - heb chwaith adal comment am y skydive! Nyts - dwi'n meddwl sw ni'n ormod o fabi i neud o'n hun.

Anonymous said...

Da gweld y mochyn bach yn dal i ymddangos weithiau.

melanie said...

Helo Gruff
Melanie o Gastellnewydd Emlyn fan hyn (cofio Queenstown?). Dwi newydd weld dy flog - digwyddodd Cerys ddod ar ei draws yn ddiweddar - diddorol!!
Ta beth, jyst eisiau dweud helo a dweud ein bod ni wedi cael swfenir a hanner o Seland Newydd - babi bach! Cafodd ei eni ym mis Ionawr (odd e fis yn gynnar rhag ofn bod ti'n meddwl bo fi'n methu cyfrif!) a'i enw yw Trystan.
Cofia fi at Dan.
Cofion cynnes, Melanie