21/01/2007

"Crocs rule!"

Helo! Am frysho drw'r blog yma, achos ma amsar yn rhedag allan ar y cownter ar y top! Preshyr i fi sgwennu blog diddorol heb adal dim byd allan!

Iawn, ar y ffor i Brisbane oedda ni y tro dwytha natha chi glywad gena fi. Dinas reit normal rili, fel Sydney tawelach, a heb y traetha. Oedd hostel ni'n rili da ddo, efo bar lawr grisha oedd yn gwerthu peints! (Heb gal peint yn iawn ers bod ffwr, felly oedd huna yn exciting iawn i ni!). Doedd na'm lot i neud yn Brisbane ddo, felly dim ond 2 noson natha ni aros yna, cyn mynd ymlaen at Noosa. Dyma lunia o Brisbane:

Ar y ffor i Noosa, natha ni sdopio yn Australia Zoo, sef sw Steve "crocs rule" Irwin, y boi gwirion nath gal ei ladd flwyddyn dwytha am wylltio stingray (oedd o'n bownd o ddigwydd rwbryd!). Dwi'm yn ffan o zoos fel arfar, ond oedd yr un yma reit cwl ma raid i fi ddeud - y rhan ora oedd y rhan cangarws, lle oedd y cangarws jysd yn rhedag rownd yn rhydd, ac oedda chi'n gellu mynd ata nw i roi mwytha idda nw a betha.

Hefyd, gesh i jans i roi mwytha i koala:

Ar wahân i huna, oedd o reit debyg i unryw sw arall (ond am y ffaith bod na fasgot cartwnaidd o Steve Irwin rownd y lle - anaddas SLASH rhy gynnar!!).

Dyma lun o Dan yn cal ei futa gen grocodeil!! (Lwcus, nath o ddod allan ohoni'n fyw, ond dim ond un fraich sy gena fo rwan).

A dyma lun o'na fi wedyn ar gefn yr un crocodeil! (Ocê, dwi'n cyfadda - un fake oedd o).


O ia, peth arall ECSAITING nath ddigwydd ar y ffor i Noosa - tro dwytha, nesh i sôn bod ni di gweld banana mawr, ond troma, natha ni weld pin-afal MAWR. Oedda ni wedi gwirioni. Dyma lun o Dan wedi gwirioni:


Oedd Noosa'n le rili braf, un o llefydd gora fi yn Awstralia so far. Nath o helpu hefyd bod ni di cyfarfod loads o bobol o Gymru yn yr hostel (Caerdydd, Port Talbot, a dwy o'r canolbarth rwla!). Hostel rili cymdeithasol, sy'n brin braidd yn Awstralia, achos mae o'n teimlo fel bod pawb fwy neu lai'n hapus yn eu grwps, a neb rili'n gneud ymdrech i gymysgu. So oedd Noosa'n teimlo chydig fel bod nôl yn Thailand!

Eniwe, bora ma natha ni adal Noosa i ddod i Hervey Bay, lle da ni'n aros heno cyn dal fferi bora fory i Fraser Island. Dwi'm yn meddwl bod fi di sôn am hyn naddo - yn Fraser Island, fydda ni mewn grwp o 11, a fydda ni'n cal menthyg 4x4 i ddreifio rownd yr ynys (ar y traeth a bob dim!) - mae o fod yn rili neis, a lot fawr o hwyl - campio ar y traeth a ballu! Da ni'm yn cal nofio yn y môr ddo, achos bod na siarcod yna, a ma na lwyth o dingoes (cwn gwyllt peryg) rownd hefyd - yn y fideo oedd yn introducio'r peth i ni, nath y lein yma ddychryn fi:

"If attacked, defend yourself aggressively."

Iaics! Da ni yna am dri diwrnod, felly os fyddwch chi heb glywad gena ni mewn wsnos, dwi'n meddwl bod o'n amsar dechra panicio...! (Jôc, peidiwch a poeni gormod plis). Traaa!

O.N. Mwya fyny'r Gogledd da ni'n mynd, gora di'r golygfeydd da ni'n gal wrth ddreifio drw'r wlad - dyma chydig o lunia!

O.O.N. Waw, wedi gellu sgwennu hwn yn ffasd iawn.

11 comments:

Anonymous said...

Swnio fatha hwyl! Sgeri di'r quote ddo...

Dangosa chydig o barch at rhen Steve Irwin druan!

Anonymous said...

Dwi'n gytud bo na'm llun o'r pîn afal MAWR - dwi'n intrigued!

Anonymous said...

"Defend yourself aggressively". Iaics yn wir. x

Anonymous said...

Hywel yma:
Mae "defend yourself aggressively" yn neud mwy o synwyr na "defend yourself gently"

Anonymous said...

Hwyrach mai Hywel fy mrawd oedd o.

Anonymous said...

Dwi'n meddwl mai hywel iorwerth oedd o, ac o be dwi'n glywad ma'r hywel newydd lot mwy anoying na hyw!

Anonymous said...

hyw go iawn

na dim fi odd o. a catrin dwi yn cymryd diddordab, dwin checio fo bob dwrnod bron, ond dwin siarad efo nhw yn aml ar msn. dwim yn licio blogio yn bersonol.

"Dwi'n meddwl mai hywel iorwerth oedd o, ac o be dwi'n glywad ma'r hywel newydd lot mwy anoying na hyw!"

pwy oedd hwna, ma huna yn suggestio bo fi rywfaint yn annoying!!

p.s. oni ddim yn hapus efo dy gomments ar Steve Irwin Gruff.

Anonymous said...

Nes i feddwl ma Hywel Lovgreen oedd o achos mae Hywel Iorwerth yn galw'i hun yn Hyw.
Hywel a Hyw - hawdd dydi.
A be di'r dil efo "Anonymous" - jyst cliciwch "other" a rhowch ych enw yn y bocs!!!!!

Anonymous said...

Nes i feddwl ma Hywel Lovgreen oedd o achos mae Hywel Iorwerth yn galw'i hun yn Hyw.
Hywel a Hyw - hawdd dydi.
A be di'r dil efo "Anonymous" - jyst cliciwch "other" a rhowch ych enw yn y bocs!!!!!

Anonymous said...

wps

Anonymous said...

Ie Hywel Lovgreen oedd o. Nai alw fy hyn yn Yncl Hywel o hyn ymlaen.