25/05/2007

Y Glaciers a.....dim byd

I ddechra'r blog ma ar nodyn reit random - sbiwch arwyddion TAIT nesh i weld mewn tafarn yn Taupo!

Eniwe, ymlaen efo'r blog. Dwi'n gwbod bod fi heb sgwennu ers wsnos a hannar, a dwi'n gwbod bod rhei o'na chi'n checio fo'n ciin bob bora yn gwaith (Manon, Mari, Mam...) ac yn cal siom(!), ond do'n i ddim isho sgwennu blog tan oedd gena fi fwy nag un peth i ddeud. Ond rwan fydd raid i fi, er mai dim ond un peth gena fi i son am, a bod na ddim hyd yn oed fideo am fod ar y blog. O wel, ma blog bach boring yn well na dim blog o gwbwl dydi!

So ia, fel nesh i ddeud tro dwytha, oedda ni am fynd fyny'r glaciers yn y glaw. Lwcus, nath hi frafio erbyn diwrnod dringo ni i fod yn ddiwrnod rili braf. Rili rhyfadd, achos y diwrnod wedyn, oedd hi'n tresho bwrw eto! So da ni wedi bod reit lwcus efo'r tywydd. Oedd o'n rili da, un o'r petha gora dwi di neud yn Seland Newydd yn bendant - lot gwell nag o'n i di ddisgwl! Oedd raid i ni ddringo fyny'r mynydd, efo guide yn torri grisha i ni wrth fynd fyny. Doedda ni'm yn dilyn yr un route pendant, achos ma'r rhew yn newid bob diwrnod, felly does na'm ffor o ddeud lle fydd yn dda, a lle fydd ddim.

Y peth gora amdana fo oedd dringo drw ogofau rhew, a llefydd cul - eitha clostroffobic, a gwlyb iawn! Da ddo. Oedd y rhew mor las fyny yn y llefydd ucha! Oedd 3/4 diwrnod yn hen ddigon i fi, ac erbyn diwadd, o'n i di blino braidd. Dyma lunia o'r diwrnod!

Da ia?! Eniwe, ers huna da ni heb neud dim o werth - go iawn, DIM. BYD. Heblaw gneud jig-so's(!), mynd i'r sinema, watchad DVDs yn yr hostels, a gneud mwy o jig-so's. Oce, di huna ddim cweit yn wir. Ar ol Franz Josef, atha ni fyny'r west coast i Nelson, dinas reit fawr. O fana, atha ni groesi nol fyny i ynys y Gogledd, a dreifio am Taupo. Nath Dan sdopio ar y ffor i neud walk y Tongariro Crossing, sy'n 18km! Mynadd! Ac oedd y tywydd mor ddrwg pan nath o neud o, doedd o methu gweld pellach na'i drwyn! O leia fedrith o ddeud bod o wedi gneud o, ond ddyla chi weld pa mor wael di'r llunia! Nesh i ddewis peidio (lwcus), a hitchhikio fyny i Taupo - profiad newydd! Ma na lot yn deud mai dyna'r ffor ora i deithio rownd yma, a dwi'n gweld pam rwan. Doedd na'm raid i fi ddisgwl yn hir cyn cal liffd.

O Taupo, atha ni fyny at Lena ac Elgan, a dyna lle da ni di bod drw'r wsnos, yn gneud dim byd mond diogi a watchad DVDs. Dwi'n meddwl sa wsnos yn llai yn Seland Newydd wedi bod yn berffaith, ma 6 wsos braidd rhy hir! Da ni am ddreifio fyny i Auckland dydd Sul, a da ni'n fflio i Fiji dydd Mawrth - methu disgwl am chydig o haul eto! Dwnim faint o flogio fydd yn mynd mlaen yn fana chwaith, so peidiwch a disgwl lot - sa fo run mor ddiddorol a blog Mam a Nia o'u gwylia nw ("Heddiw, atha ni i'r traeth. Fory, da ni'n mynd i'r pwll.")! Dim ond pythefnos fydd o ddo, a nai drio gneud o leia un, i chi gal gweld pa mor braf di hi yna! Ond dwi'n GADDO fydd y blog yn cal ei updatio'n rheolaidd yn America - fydda ni'n gneud lot o betha fana! A wedyn dim ond 7 wsnos fydd ar ol! Amsar yn hedfan go iawn!

Eniwe, sa well i fi fynd rwan - dwi di mwydro braidd gormod am un blog! Ella nai flogio o Auckland, ond os ddim, nai weld chi yn Fiji!!

6 comments:

Anonymous said...

wehei fi'r di'r cynta i adal comment! ma manon, mari a dy fam yn slacio gruv!!

ma'r llunia o'r galciers yn mega atgoffa fi o waith coleg - os tisho gwbod unrhywbeth, jysd gofyn!!

nes ti ofyn pam y sein am gaerdydd??? bach yn wir ddo - ma caernarfon yn well dydi!

Anonymous said...

Cytuno efo Rob - y sein yn llygad i le, Cnarfon di'r lle i fod ar y funud! Neis clywad bo chdi dal yn fyw Gruv x

Anonymous said...

Cheeks. Onin goro gadal negas ar ol gweld y blog AR comments gan Robin a Mari.

Oleia gath Gaerdydd mensh...... dipyn mwy na be gath Caernarfon!!!

Anonymous said...

Haia Gruff, da di'r holl rew! Ma mam yn Fuerteventura am yr wythnos. Tyd ar MSN rywbryd i ni gal sgwrs!

Anonymous said...

Paid รข bod yn cheeky! Sa Nia a fi'n gallu gneud blog difyr iawn o'n gwylie, taen ni'n gwbod sut i!

Anonymous said...

Er gwybodaeth - dwi ddim yn slacio iawn, dwi dal yma!
Llunia da - a ma dy farf yn mynd yn hir hefyd Gruff!