Helo! Jysd meddwl swn i'n gadal nodyn byr i gadw chi up to date efo'r jobhunt! Ma Dan di bod yn gweithio i call centre yn ffonio pobol a trio gwerthu petha (hwyl), ond mae o a James yn dechra labro a codi seti i'r Grand Prix wsos nesa. A fi? Dwi di bod am gwpwl o interviews, gneud profion teipio ayyb - mashwr gai job offis rwbryd wsos nesa.
Am bod ni ddim am neud lot o ddim byd am y ddau fis nesa, ma'r blog ma di gorffan! Ond fydd o nol ym mis Ebrill, efo sdeil newydd sbon, a llwyth o features newydd*!
Cadwch mewn cysylltiad drw e-mail neu Bebo!
Diolch am ddarllan: tan Seland Newydd,
Traaa!!
*Ddim o reidrwydd yn wir.
5 comments:
Haha! "ddim o reidrwydd yn wir" - da Gruff! Gobeithio gei di waith yn fuan a mwynhewch eich cyfnod o fywyd normal yn Melbourne. Edrych ymlaen at yr instalment nesa yn Ebrill.
BE?!!?!?!?!?!? Fedrai ddim byw heb y blog.
newydd weld pa mor ddel di janae!! sa chdi di gallu at least shafio i neud argraff bach gwell bysat!!
sbic swn
Mwynhewch melbourne - teulu'r felinheli
PENBLWYDD HAPUS GRUFF! Teulu'r Felinheli xxxx
Post a Comment