Helo o Melbourne! Do, da ni di cyradd diwadd y road trip (o'r diwadd!), a da ni'n barod rwan i setlo yma am y dau fis nesa. Ond cyn i fi sôn mwy am Melbourne...
...Tro dwytha nesh i sgwennu oedda ni yn Coober Pedy, y lle dan ddaear (waw, ma huna'n teimlo'n riiili pell i ffwr wan!). O fana, natha ni ddreifio lawr drw'r outback am y tro ola i Adelaide. Ar y ffor ddo, natha ni weld llyn halan! Rhyfadd iawn, a dwi'm yn gwbod pam bod o'n llawn halan, ond oedd o reit od cerddad dros y llyn ma!
Oedd Adelaide yn ddinas reit neis - lle braf i fyw yn mashwr, ond dim lot i weld yna. Felly tra oedd Dan, Marcus a James yn brysur un diwrnod (nai adal i Dan ddeud hanas y diwrnod yna!), nesh i gyfarfod Dewi, cefnder Dad, a'i deulu. Gesh i ddiwrnod braf, jysd yn relaxio mewn pwll nofio (a cal bwyd di cwcio i fi!!), a nath Dewi ddangos fi rownd y lle. Gyda'r nos wedyn, natha ni fynd am bryd o fwyd wrth y traeth, wedyn mynd lawr at y môr ar ôl bwyd - weird, yn fama mai'n aros yn braf drw'r nos, ac oedd na lwyth o bobol ar y traeth am tua 9pm! Gesh i lun AMAZING o'r machlud hefyd (dwi'n prawd o'r llun! Y gora so far ella?!):




Ar ôl cyradd Melbourne tua 6pm, doedd gena ni ddim amsar i ddiogi - oedd raid i ni frysho draw i Neighbours Night!!! Dwnim os dwi di sôn am hyn yn barod, ond basically bedio ydi noson cwis mewn tafarn, lle ma na dri o'r cast Neighbours yn troi fyny bob wsnos. Noson rili hwyl, a gatha ni hefyd y treat o weld band Karl Kennedy yn chwara! Ffyni. Eniwe, dyma lunia o Dan a fi efo Toadie, Janae a Boyd!



Ers huna ddo, da ni jysd di bod yn chwilio am fflat SLASH job, a heddiw gatha ni chydig o newyddion da - fflat ar gael i ni reit yn ganol y ddinas! Exciting, dwi newydd fod i weld o a mae o'n rili neis (slash bach). Rili modern, a mae o am fod mor braf cal lle i ni'n hunan am y tro cynta ers 6 mis! Dyma lunia o'r fflat!!




View ni off y balconi di'r llun ola na - a ma'r living room yn edrych yn fwy real life. A ma gena ni gegin tu ol i'r soffa fyd, ond gena fi ddim llun da o hwna!
Iawn, sa well i fi fynd i bacio rwan! Nai drio cal Dan i sgwennu blog yn fuan!!